|
||
|
|
||
|
||
|
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw? |
||
|
Prynhawn da, Rydym wedi derbyn pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn Heol Porthceri a'r strydoedd cyfagos. Mae gan yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol ddyletswydd i amddiffyn cymunedau rhag aflonyddu, braw, gofid a niwsans a achosir gan y rhai sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Er mwyn ein cynorthwyo i nodi maint ac amlder y broblem hon, byddem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â Chyngor Bro Morganwg neu Heddlu De Cymru gydag unrhyw wybodaeth a allai helpu i adnabod y rhai sy'n gyfrifol. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw ein stryd yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb. Darperir manylion cyswllt isod - Cyngor Bro Morganwg - 01446 700111 - contactonevale@valeofglamorgan.gov.uk Heddlu De Cymru - 101 ar gyfer materion nad ydynt yn frys. 999 bob amser mewn argyfwng - www.south-wales.police.uk
| ||
Reply to this message | ||
|
|







